Cyflwyniad

Mae dros 3500 o gorlannau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys nifer o rai 'amlgellog', sef corlannau sydd â phedair neu fwy o gelloedd. Mae llawer o'r rhain yn ardal y Carneddau, a ddangosir isod. Nod y wefan hon yw cofnodi'r corlannau hyn, gan ddangos lle y maen nhw, sut y maen nhw’n gweithio a'u lle yn hanes ffermio defaid yng ngogledd Cymru. Maent yn adeileddau trawiadol a chywrain sydd wedi sefyll prawf amser ac mae llawer yn cael eu defnyddio hyd heddiw.

Dechreuais dynnu lluniau o’r adeileddau hyn o’r awyr yn 2018 a hyd yn hyn rydw i wedi ymweld â dros 50 o safleoedd, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid pob un, yn y Carneddau. Mae siarad â ffermwyr, archeolegwyr a thrigolion lleol yr ardal wedi helpu i gasglu'r holl wybodaeth a geir ar y wefan hon. Yn benodol, hoffwn ddiolch i’r bobl ganlynol am eu cyfraniadau a'u cymorth:

John Ll. Williams, Ieuan Wyn, Arwel Edwards, Arwyn Oliver, Dafydd Roberts, Catrin ac Elfed Jackson, Dafydd Pritchard, Dewi Jones, Twm Elias, Wyn Griffith, Roland Wyn Jones, Jane Kenney, Fiona Grant, Catrin ac Arwel Roberts, Megan Tomos, Richard & Jen Temple-Morris a Sian Beidas. 

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Hoffwn ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cymorth:

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Sylwch fod hawlfraint ar bob llun ond os hoffech chi eu defnyddio neu gael copïau, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy'r dudalen Cysylltu

Nigel Beidas, Ionawr 2023