Lleoliad

Defnyddiwyd yr adroddiad Medieval and Post-Medieval Agricultural Features in North-West Wales (ar gael yn Saesneg yn unig) - a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (YAG) yn 2014 - fel y brif ffynhonnell ar gyfer lleoliadau’r corlannau, yn ogystal â data o fapiau’r Arolwg Ordnans. Roedd adroddiad YAG yn tynnu ynghyd wybodaeth o Fenter Ucheldir 1987-9 Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn ogystal ag o draethawd hir a ysgrifenwyd ym 1998 gan Fiona Johnson, myfyriwr israddedig o Brifysgol Manceinion, ar gorlannau amlgellog. Mae adroddiad YAG, a'r traethawd hir, i'w gweld yma.

Mae'r cofnodion hyn yn dangos o leiaf 3,500 o gorlannau yng ngogledd-orllewin Cymru, ond mae YAG eu hunain yn cyfaddef bod hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel. Mae casgliad amlwg o gorlannau yn rhan ogleddol yr ardal, yn enwedig yn ardal y Carneddau ac archwilir y rhesymau am hyn yn yr adran ar Hanes y corlannau.

Mae map o'r safleoedd a nodir uchod i'w weld isod, wedi'i atgynhyrchu gyda chaniatâd YAG.

Gallwch weld map gyda manylion yr holl safleoedd rwyf wedi ymweld â nhw yn yr adran Map.