Pori ar y Carneddau
Mae'r nifer uchel o gorlannau amlgellog ar y Carneddau yn adlewyrchu arwynebedd sylweddol y tir pori comin. I'r gogledd o brif grib y Carneddau gweinyddir yr hawliau pori trwy tair cymdeithas bori, Talyfan, Abergwyngregyn & Llanfairfechan, a Llanllechid. Mae'r olaf yn unigryw gan fod yr hawliau pori yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth gan Gyngor Cymuned Llanllechid (y Cyngor Plwyf yn flaenorol) ar ran ffermydd yr ardal. Dyma’r unig Gyngor Cymuned yng Nghymru i ddal a dyrannu hawliau pori. Gall ffermydd wneud cais i’r cyngor am hawliau pori ac fe’u dyrennir ar sail maint tir pob fferm o fewn ardal y cyngor. Gweinyddir y pori ar y cyd rhwng Cyngor Cymuned Llanllechid a Chwmni Mynydd Llanllechid.
Diffiniwyd hawliau pori yn y gyfraith yn fwyaf diweddar yn Neddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, wedi'i ategu gan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Bryd hynny, ym 1965, dyrannwyd yr hawliau i Gyngor Plwyf Llanllechid bori 25,000 o ddefaid, tra bod ffermydd unigol a Stad y Penrhyn yn dal 11,000 o hawliau pellach. Nid yw'n glir a yw'r nifer uchaf o ddefaid a ganiateir wedi pori yno erioed. Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae llawer llai o ddefaid yn pori ar y Carneddau.
Mae’r cymdeithasau pori’n cydweithio â’u cymdogion ac mae ganddynt ddyddiau penodol ar gyfer casglu’r defaid - i’w cneifio, i wahanu’r ŵyn oddi wrth y mamogiaid ac ar gyfer clirio’r mynyddoedd dros y gaeaf i baratoi ar gyfer hwrdda ac ŵyna. Ar yr achlysuron hyn y bydd y corlannau'n cael eu defnyddio. Mae ffermwyr ar Gomin Llanllechid yn defnyddio pump o'r corlannau mawr mewn trefn benodol wrth hel eu defaid. Buarthau'r Gyrn sydd yn gyntaf, yna Buarth Fro-Wen, Buarth Carreg y Garth, Buarth Mawr y Braich ac yn olaf Buarth Mynydd Du.
Yn ardal Llanllechid mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau am hawliau pori i'r Cyngor Cymuned erbyn 29 Hydref bob blwyddyn. Dyma ddyddiad ffair y pentref. Mae'r ffair yn dyddio'n ôl i 1758 pan sefydlwyd marchnad ddefaid yn y pentref i ganiatáu i ffermwyr brynu a gwerthu eu defaid. Dilynwyd y farchnad ddefaid gan 'luniaeth' i'r oedolion a ffair i'r plant, sydd wedi goroesi hyd heddiw.
Nid oes cymdeithasau pori ar ochr ddeheuol y Carneddau a gwneir y cytundebau pori yn uniongyrchol rhwng y ffermydd a'r tirfeddiannwr priodol.
Y Setiwr
Mae pob cymdeithas bori yn cyflogi setiwr. Daw'r enw o'r hen air Saesneg escheator, sef swyddog brenhinol yn yr Oesoedd Canol a oedd yn gyfrifol am hawlio asedau ar gyfer y goron yn dilyn marwolaeth lle nad oedd unrhyw ddisgynyddion nac etifeddion cyfreithlon. Mae gan setiwr y gymdeithas bori ddau gyfrifoldeb. Y cyntaf yw sicrhau bod defaid diarth sy'n cael eu hel i'r corlannau casglu yn cael eu hawlio gan eu perchnogion o ffermydd cyfagos. Yr ail yw arwerthu unrhyw ŵyn amddifad sydd heb eu hawlio wedi i'r defaid gael eu hel ym mis Gorffennaf a mis Medi. Fel arfer nid oes gan yr ŵyn hyn glustnod i nodi'r fferm y maent yn perthyn iddi. Mae’r llun yn dangos yr ŵyn di-nod oedd heb eu hawlio ym mis Mehefin 2022 ac a oedd ar gael i’w harwerthu ym Mharc Set, Llanllechid, corlan sydd, yn anarferol, ar ganol y pentref.
Marciau adnabod - nodau pyg
Yn aml yn y gorffennol defnyddid pyg neu bitsh poeth ar haearn brandio i argraffu dwy neu dair o lythrennau cyntaf enw'r perchennog ar y defaid wedi iddynt gael eu cneifio. Gallai'r pyg wrthsefyll y tywydd a byddai'n weladwy ar y cnu drwy'r flwyddyn. Fodd bynnag, byddai perchnogion melinau gwlân yn cwyno am y marc gan ei fod yn anodd ei dileu wrth baratoi'r cnu ar gyfer ei nyddu. Cafodd hyn effaith andwyol ar bris gwlân ac felly datblygwyd dulliau eraill, megis chwistrellau erosol, i farcio’r defaid.
Marciau adnabod - nodau clust / clustnodau
Yn y corlannau ar y Carneddau mae defaid fel arfer yn cael eu hadnabod wrth eu clustnodau. Mae gan bob fferm ei marc unigryw ei hun sy'n cael ei dorri pan fo'r oen yn ifanc; fe wneir y toriadau yng nghartilag y glust fel ei fod yn gymharol ddi-boen. Mae nifer fawr o wahanol doriadau o ynghlwm â'r nodau hyn a chyfoeth o dermau i'w disgrifio. Y rheol yw bod cofnodion clustnodau yn dangos y marciau fel y maent yn ymddangos wrth edrych ar gefn y glust, hy edrych o gefn y ddafad ymlaen. Nid yw nod neu farc yn eiddo i unrhyw unigolyn ond yn hytrach i fferm. Felly mae perthynas amlwg iawn rhwng y fferm, ei hawliau pori, ei chlustnodau a chynefin ei diadell (ceir disgrifiad o gorlannau cynefin yma). Pan werthir fferm, mae'r gwerthiant fel arfer yn cynnwys y praidd.
Ni ddylid drysu rhwng clustnodau a'r tagiau adnabod melyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Fel y crybwyllwyd uchod, ceir geirfa arbennig i ddisgrifio'r mathau o doriadau a wneir. Yn y rhan fwyaf o achosion, wrth gwrs, dim ond y Gymraeg fyddai'n cael ei ddefnyddio. Daw’r llun hwn, a’r un blaenorol, o lyfr a gyhoeddwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn 2015 yn cofnodi holl glustnodau'r ardal. Prif nod y llyfr yw helpu i adnabod defaid sydd wedi’u dwyn, ond mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth hwylus a hawdd i'w diweddaru. Mae gan lawer o ffermwyr hen gofnodion mewn llawysgrifen o’r clustnodau a ddefnyddid ac mae cofnodion yn bodoli o gofrestrau clustnodi sy’n dyddio’n ôl i 1825.
Nid yw clustnodau yn unigryw i Gymru a gellir eu canfod mewn rhannau eraill o'r DU. Yn ardal Cumbria, er enghraifft, fe'u gelwir yn lugmarks. Mae clustnodau i'w cael dramor hefyd, er enghraifft yng Ngwlad yr Iâ, Awstralia a Seland Newydd, er nad yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i ddefnyddio clustnodau yn yr un o'r tair gwlad.
Llyfyr clustnodau, fferm Glanmor Isaf 1870
Clustnodau fferm y teulu Pritchard, sef Tŷ Slaters ar y pryd, oedd rhifau 182 a 183. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fferm Pen-y-Bryn ym Mangor ac wedyn i'r safle presennol, sef Glanmor Isaf.
Gyda diolch i Dafydd Pritchard
Llyfyr clustnodau, fferm Glanmor Isaf 1920
Erbyn 1920 roedd y teulu Pritchard yn amaethu yn fferm Glamor Isaf, ger yr arfordir. Nid oedd y clustnod sydd ar ben y rhestr wedi newid o'i gymharu â rhif 183 ar restr 1870 ac mae'n cael ei ddefnyddio hyd heddiw.
Gyda diolch i Dafydd Pritchard