Hanes

Enwau'r corlannau

Cyn trafod ychydig o hanes y corlannau, mae'n werth edrych ar eu henwau. Yn gyffredinol, corlan yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio lle caeedig ar gyfer cadw defaid, ond yn ardal gogledd y Carneddau mae'r term buarth yn fwy cyffredin. Hwn oedd y gair cyffredin am gorlan gasglu yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'r rhan fwyaf o'r corlannau yn cael eu hadnabod yn lleol fel "Buarth hwn a hwn neu le a lle", er enghraifft Buarth Mawr y Braich yng Nghwm Caseg, sydd ychydig islaw Braich y Llyngwn ar Yr Elen. Gelwir eraill yn Fuarth Newydd neu Gorlan Hen; mae tarddiad yr enwau hyn yn aml yn anhysbys. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod enwau’r corlannau yn eu hardal benodol, ond, wrth gwrs, unwaith y bydd y corlannau yn peidio â chael eu defnyddio bydd eu henwau’n mynd yn angof hefyd.

Hafod a Hendre - ffermio cyn y ddeunawfed ganrif

Am y rhan fwyaf o'r cyfnod cyn y ddeunawfed ganrif, roedd ffermwyr yn dilyn y drefn hafod a hendre. Defnyddiwyd cynnyrch y fferm yn bennaf i gynnal y teulu ac felly roedd yn cynnwys cnydau i fwydo'r teulu a'r anifeiliaid, yn ogystal ag amrywiaeth o dda byw. Yn yr haf symudai'r ffermwr a'r anifeiliaid i dir pori'r ucheldir a byddent yn aros yn yr hafoty. Yn y gaeaf byddent yn symud yn ôl i lawr i'r iseldiroedd ac i brif annedd y teulu, sef yr hendre. Roedd yn system o drawstrefa yn debyg iawn i'r hyn a geir yn Ewrop (transhumance). Tŷ bychan a chwt gwartheg oedd yr hafoty fel arfer, er y gallai fod ar ffurf un tŷ hir lle byddai’r ffarmwr a’r anifeiliaid yn aros. Roedd y system yn caniatáu amser i gnydau’r iseldiroedd dyfu heb rwystr ac i’r da byw fanteisio ar borfa'r haf yn yr ucheldiroedd. Yn ddiamau, byddai rhai corlannau wedi bodoli a chael eu codi yn y cyfnod hwn, ond mae’n bwysig cydnabod mai gwartheg ac nid defaid oedd mwyafrif yr anifeiliaid.

Newidiadau mewn amaethyddiaeth o'r ddeunawfed ganrif - codi corlannau

 

Bu dirywiad yn y drefn hafod a hendre o'r ddeunawfed ganrif ymlaen am ddau reswm. Yn gyntaf, cafwyd twf sylweddol ym mhoblogaeth gwledydd Prydain, yn enwedig yn y dinasoedd. Yn y cyfnod rhwng 1750 a 1800 bu cynnydd o 50% yn y boblogaeth a dangosodd y cyfrifiad swyddogol cyntaf ym 1801 bod y boblogaeth wedi codi i 9 miliwn o bobl. Yn  sgil hyn cafwyd cynnydd aruthrol yn y galw am gynhyrchu bwyd ac o ganlyniad, newidiodd ffermio o ffermio ymgynhaliol i amaethyddiaeth gyfalafol, sef cynhyrchu bwyd i eraill. Yn ail, ac yn fwy pwysig, roedd hi'n gyfnod pan gafodd darnau helaeth o dir comin eu cipio a'u hamgáu gan y stadau mawr megis Stad y Penrhyn.. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif roedd y rhan fwyaf o ffermydd gogledd Cymru yn perthyn i'r stadau. Daeth yr hafotai yn ffermydd mynydd parhaol ac anfonwyd eu hanifeiliaid i'r ucheldir comin i bori. Roedd y stadau yn awyddus i wella arferion amaethyddol i fodloni'r galw cynyddol am fwyd ac roeddent yn cael eu hysgogi'n llawer mwy gan elw. Gyda'r ffermwyr-denantiaid yn aros mewn un annedd trwy gydol y flwyddyn, roedd defaid yn disodli gwartheg fel y prif fath o dda byw. Roedd galw mawr am wlân yn y cyfnod hwn ac roedd ffermio defaid yn llawer mwy proffidiol i’r stadau. Gallai'r defaid gael eu hanfon i'r tir comin yn yr haf ac roedd y gofynion hwsmonaeth yn llai nag ar gyfer gwartheg. Fodd bynnag, ar rai adegau o’r flwyddyn, megis amser cneifio, roedd angen hel y defaid ac mae’n debyg mai dyma pryd y codwyd y rhan fwyaf o’r corlannau amlgellog, h.y. tua 250 - 300 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y tir pori comin helaeth ar ucheldir y Carneddau, yn arbennig, yn golygu, unwaith y sefydlwyd y drefn hon, mai dyma’r ardal lle’r oedd angen codi'r rhan fwyaf o’r corlannau amlgellog.


Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at gorlan mewn llyfr yn dyddio o 1779.

Gwybodaeth bellach am gau'r tiroedd comin

Er mwyn deall hanes ffermio defaid ar y Carneddau, mae angen deall hanes pori tiroedd comin ac effaith y broses o gau tiroedd yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw, mae tua 8.5% o arwynebedd Cymru yn dir comin cofrestredig, sef cyfanswm o tua 175,000 hectar, ac mae’r rhan fwyaf o'r tiroedd hyn i'w cael yng Ngwynedd a Phowys.1 Yng Nghymru, lleolir y rhan fwyaf o'r tiroedd comin (tua 75%) yn yr ucheldiroed,2  a mynyddoedd y Carneddau yw un o'r ardaloedd mwyaf o dir comin yng ngogledd Cymru. Mae dros 20 milltir sgwâr o dir comin rhwng Bethesda, Llanfairfechan, Capel Curig a Chonwy.3 Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd tir comin yn llawer mwy sylweddol, ac yn cynrychioli tua thraean o arwynebedd tir Cymru, sef 687,000 hectar neu 1.6m erw.4

 

Er gwaethaf yr enw, nid yw tir comin, ac nid oedd erioed, yn eiddo i'r cyhoedd. Mae'n dir preifat, ond yn dir y mae gan bobl leol hawl gyfreithiol i'w ddefnyddio, i bori anifeiliaid, tyfu cnydau ac ati. Yn y gorffennol roedd y boblogaeth wledig yn bennaf yn cynnwys gweithwyr amaethyddol a oedd yn crafu bywoliaeth drwy gadw ychydig o anifeiliaid a thyfu cnydau ar stribedi o dir ar y tiroedd comin. Yn aml roedd yn dir o ansawdd gwael ac yn aml yn cael ei orbori.

 

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, wrth i stadau yng Nghymru dyfu’n fwy, cynyddodd y broses o amgáu'r rhannau gorau o’r tir comin. I bob pwrpas, trwy deg neu drwy drais, golygai hyn fod rhannau o'r tir comin a ddefnyddid gan werinwyr lleol wedi’u cau i ffwrdd, a bod yr hawliau cyfreithiol i bori ac ati yn cael eu dileu, yn aml heb unrhyw iawndal. Er enghraifft, rhwng 1360 a 1620, caewyd 2,000 erw o dir comin lleol gan Stad fawr Cochwillan ger Llanllechid (a brynwyd ymhen amser gan Stad y Penrhyn).5

 

Yn yr 16eg ganrif, cyflwynwyd cyfraith Lloegr i Gymru ac o hynny ymlaen defnyddiwyd Deddfau Seneddol yn fwyfwy aml i orfodi'r broses o amgáu tir comin. Erbyn 1750, y llwybr hwn i gaffael tir oedd y norm i'r stadau mawr, a oedd yn berchen ar y mwyafrif helaeth o'r tir bryd hynny. Yng ngogledd Cymru, roedd nifer y Deddfau Cau Tir fel a ganlyn:6

 

1700 - 1760 3

1761 - 1801 20

1802 - 1811 32

1812 - 1844 24

1845 - 1885 22

 

O hyn gellir gweld bod y cyfnod helaethaf o gipio tir trwy ddulliau cyfreithlon wedi digwydd tuag adeg Rhyfeloedd Napoleon (1799 - 1815), pan gyflwynwyd dros 30 o Ddeddfau Seneddol mewn cwta naw mlynedd. Yn rhan olaf y 1800au daeth y Deddfau Cau Tir yn llai niferus wrth i gyfreithiau newydd gydnabod gwerth amwynderol y tiroedd comin. Fodd bynnag, erbyn hynny, roedd y difrod wedi’i wneud gyda dros hanner tiroedd Cymru a oedd yn gomin yn 1800 wedi’u hamgáu o fewn y ganrif.4

 

Y ddadl a gyflwynwyd gan y stadau mawr wrth alw am i’r Deddfau gael eu pasio oedd bod defnyddio’r tiroedd comin ar gyfer ffermio yn aneffeithlon, bod da byw yn cael eu hesgeuluso ac yn aml yn cael rhy ychydig o fwyd, bod y tir yn llawn prysgwydd ac nad oedd y system gaeau a oedd yn cael ei defnyddio yn caniatáu unrhyw welliannau. Prin oedd unrhyw iawndal i'r bobl a oedd yn defnyddio'r tir comin a amgaewyd, ac ofer bu unrhyw wrthwynebiad, er bod terfysgoedd yn aml yn dilyn. Mae hen bennill a ysgrifennwyd yn Saesneg yn yr un cyfnod yn taro'r hoelen ar ei phen:7

 

Maen nhw'n crogi'r dyn ac yn chwipio'r wraig

Sy'n dwyn yr ŵydd oddi ar y comin.

Ond cael mynd yn rhydd mae'r troseddwr mawr

Sy'n dwyn y comin oddi ar yr ŵydd.                                   (Cyfieithiad)

 

Cynorthwywyd y stadau yn eu hymdrechion gan y cynnydd sylweddol yn y galw am fwyd yn sgil twf y boblogaeth drefol ac oherwydd bod galw mawr am wlân a chig dafad yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Gallent ddadlau eu bod yn helpu ymdrech y rhyfel trwy wella dulliau ffermio, codi waliau i warchod cnydau ac anfon defaid i’r ucheldir i bori. I bob pwrpas, roedd y newidiadau a ddigwyddodd yn nodi diwedd ffermio ymgynhaliol a dechrau amaethyddiaeth fasnachol.

 

Yn ystod y 150 mlynedd hyd at 1850, bu cynnydd amlwg iawn mewn ffermio defaid ar y Carneddau, ynghyd â chodi'r holl adeileddau a oedd yn gysylltiedig â hynny - waliau i gadw defaid draw o’r cnydau, corlannau ar gyferdidoli, golchi a chneifio preiddiau, llochesi bugeiliaid ac yn y blaen.

 

Mae'r llun yn dangos y llythrennau a'r rhifau EP 1683 wedi'u naddu ar bostyn giât ar y ffin rhwng tir comin a thir fferm ar ochr ddwyreiniol y Carneddau ger Talyfan. Credir mai EP oedd y swyddog a oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o amgáu'r tir ac mae'r dyddiad 1683 yn awgrymu bod y gwaith o adeiladu'r waliau wedi hen ddechrau ar y Carneddau dros 100 mlynedd cyn Rhyfeloedd Napoleon. Mae hyn hefyd yn awgrymu bod rhai o gorlannau’r ardal dros 300 oed, gan y byddai eu hangen ar yr adeg pan oedd y tir yn cael ei amgáu a defaid yn cael eu symud i bori ar dir comin.

 

 

Adnoddau cyfeirio

 

https://law.gov.wales/cy/yr-amgylchedd/cefn-gwlad-mynediad/tir-comin


https://assets.publishing.service.gov.uk/media/6038cb8ad3bf7f03919ad27a/14746_APPENDIXD-Landownerdeepdivereport.pdf

 

https://testing.carneddau.creo.dev/agricultural-traditions/

 

 



https://economicsociology.org/2018/02/18/the-goose-and-the-common-the-privatization-of-public-space/

 

Erthyglau cysylltiedig

 

https://ffermioynllanllechid.com/ffermio-ym-mhlwyf-llanllechid1760-1860-rhan-2-cefndir-penodol/


Twf y diwydiant llechi 

Mapio'r corlannau



Corlannau defaid a hen aneddiadau

 


Map trwy garedigrwydd yr Arolwg Ordnans.


Y Porthmyn

Gostyngiad yn nifer y defaid