Mae ffermwyr, ar droed ac ar feiciau cwad, yn arwain y defaid tuag at fynedfa corlan Buarthau'r Gyrn, islaw copa'r Gyrn. Mae'r cŵn yn helpu i gadw'r defaid gyda'i gilydd.
Mae ffens weiren yn arwain y defaid drwy fynedfa'r gorlan.
Unwaith y bydd y defaid yn ddiogel yn y corlannau canolog, mae'n gyfle i'r ffermwyr gael seibiant a thamaid o ginio.
Dros y ddwy awr nesaf, caiff y defaid eu hadnabod yn ôl eu marciau a'u symud i'r celloedd unigol sydd wedi'u pennu ar gyfer ffermydd penodol (gweler yma sut mae corlannau'n gweithio), cyn i bob fferm symud ei defaid ei hun o'r gorlan i'w cneifio.
Contractwyr sy'n gwneud y gwaith cneifio ac maen nhw'n cael eu talu fesul cnu.
Caiff y bylau eu cau â phegiau.